
Rydym hefyd yn gwerthu teirw stoc masnachol sy'n addas ar gyfer buchesi sugno a llaeth am brisiau rhesymol.
Rydym bob amser a rhestr teirw stoc ar werth.
Dyma enghreifftiau o rai teirw arbennig sydd wedi eu cyflenwi gan Owain Llyr yn ddiweddar:-
Tarw Stoc Limousin - Penrheol Sam. Tad - Ronick Hawk. Penrheol Sam oedd tad Haltcliffe Vermount y pencampwr Carlisle yn Chwefror 2006 a werthwyd @ £105,000. Y pris uchaf yn y byd. Gwerthwyd Sam i Ellis Lloyd a'i gwmni, Garthiaen, Llandrillo, Corwen. Cynhyrchwyr nodedig gwartheg eidion.
Tarw Stoc Limousin - Smithston Rainman. Tad - Talent. Smithston Rainman oedd tad Marlepark Ace pencampwr Perth yn Hydref 2006 a werthwyd @ £11,550. Gwerthwyd Rainman i David Roberts, Cornel y Cae, Lloc, Treffynnon, sy'n sefydlu buches pedigri Limousin newydd.
Tarw Stoc Limousin wedi'i fewnforio - Titanic. Tad - Milou. Gwerthwyd i M & S Ll Jones, Pant y Coed, Chwilog, Pwllheli. Bridiwyr gwartheg Limousin - buches Garmon.
Tarw Stoc Limousin wedi'i fewnforio - Sultan. Tad - Lino. Y fam allan o Domino. Wedi ei fagu yn muches enwog Champeval. Gwerthwyd i R E & P M Furness, Lane Side Farm, Peak Forest, Buxton, Derbs. Bridiwyr gwartheg Limousin - buches Peak.
Tarw Stoc wedi'i fewnforio Vacarme. Tad - Reve. Vacarme oedd tad y tarw ifanc drytaf a werthwyd yn Prestige V111 yn Brive, Ffrainc Awst 2007. Gwerthwyd Banjo oedd yn 12 mis oed am 17,000 Ewro i Goulding Genetics, Iwerddon. Gwerthwyd Vacarme I D J Havard & Co, Lodge Farm, Three Cocks, Aberhonddu, De Cymru. Buches Glasbury.
Tarw Stoc Limousin - Ronchon. Tad - Jordy. Gwerthwyd yn rhannog i E A Davies, Pantmaenog, Llangadog, Sir Gaerfyrddin a J D avies, Panthowell, Llangadog, Sir Gaerfyrddin. Bridiwyr arbennig lloi sioe masnachol.
Tarw Limousin ifanc wedi'i fewnforio - Asterix. Tad - Nenuphar. Gwerthwyd i Castlewigg Farming Co Ltd, Whithorn, Newton Stewart, Alban. Bridiwyr nodedig gwartheg Limousin. Buches Marlepark.
Tarw Limousin ifanc wedi'i fewnforio - Africain. Tad - Nenuphar. Gwerhwyd i T C Edwards a'I feibion, Pen y Bryniau, Betws G.G, Corwen. Cynhyrchwyr ac arddanosgwyr gwartheg masnachol o safon. Tarw Limousin ifanc wedi'I fewnforio - Bete B. Tad - Rossignol. Gwerthwyd i Yeomans & Parners, Llwyn y Brain, Adfa, Drenewydd. Arbennigwyr yn cynhyrchu lloi sugno o safon.
Tarw Stoc Limousin wedi'i fewnforio - Aimable. Tad Ondit, mab i Ideal 19. Gwerthwyd i A & J Powell, Broniarth Hall, Guilsfield, Trallwng. Cynhyrchwyr nodedig o loi sioe masnachol.
Tarw Stoc Limousin wedi'i fewnforio - Apache. Tad - Opticien, mab i Malibu. Gwerthwyd I D & S Owen, Brechfa, Sir Gaerfyrddin. Cynhyrchwyr gwartheg stor o safon.
Tarw Stoc Limousin - Samovar. Tad Mic Mac. Gwerthwyd mab iddo Burnbank Vice am 8,500 gns yn Carlisle, Chwefror 2006. Samovar oedd tad Grahams Avril, heffer 10 mis oed a werthwyd am 5,000 gns yn Carlisle Hydref 2006. Gwerthwyd i I D Jones & Co, Plas Isa, Corwen. Cynhyrchwyr gwartheg stor organig o safon.
Tarw Stoc Limousin - Kype Raymond. Tad - Cloughead Lord. Gwerthwyd i MPB Ashton a'u mab, Bellanddu, Cefn Coch, Trallwng. Cynhyrchwyr gwartheg stor o safon.
Tarw Stoc Limousin - Prestige. Tad - Eleazer, mam allan o Mamelle. Meibion wedi gwerthu hyd at 7,000 gns a heffrod hyd at 2,200 gns yn Perth. Gwerthwyd i T H Roberts, Bachymbyd Bach, Rhewl, Rhuthun. Buches masnachol a pedigri Rhaeadr.
Tarw Stoc Charolais - Corrie Ultrasonic. Tad - Gretnahouse Noel. Gwerthwyd i GR & EW Davies, Nant Hir, Cwmtirmynach, Bala. Cynhyrchwyr gwartheg stor Charolais o safon.
Tarw Stoc Charolais - Maerdy Primeminister. Tad - Grimaldi. Pencampwr yn Perth, Hydref 2001 lle gwerthwyd am 28,000 gns. Gwerthwyd i J J Howells, Lletywilws, Pontyberem, Llanelli. Bridiwr gwartheh pedigri Charolais - buches Redriver.
Tarw Stoc Charolais - Bleasdale Pirate. Tad - Allanfauld Vagabond. Gwerthwyd i JH & HP Thomas, Cefn Trefech, Llanfair T.H, Abergele. Cynhyrchwyr gwartheg stor Charolais o safon.
Tarw Stoc Charolais Culard wedi'i fewnforio Gwerthwyd i G.B Jones, Fron Bella, Pentrefoelas, Betws y Coed. Cynhyrchu gwartheg masnachol o safon.
Tarw Stoc Charolais Culard wedi'i fewnforioGwerthwyd i Gerwyn Jones, Creigiau, Nebo, Llanrwst. Cynhyrchu gwartheg stor Charolais o safon.
Tarw Charolais Culard ifanc wedi'i fewnforio Gwerthwyd i DK Jones, Pantycetris, Talgarreg, Llandysul. Cynhyrchu lloi sugno o safon.
Tarw Stoc Charolais Culard wedi'i fewnforio - Avril. Tad - Navarre. Gwerthwyd i EL, TG & MJB Jones, Mynachlog Uchaf, Talgarreg, Llandysul. Cynhyrchwyr gwartheg eidion o safon.
Tarw Stoc Blonde d'Aqutaine - Doncombe Ularit. Tad - Druk Lance. Pencampwr Carlisle Mawrth 2003. Gwerthwyd i Wyn Ellis, Nant Cornwal, Llansannan, Dinbych. Cynhyrchu gwartheg masnachol o safon.
Tarw Stoc Belgian Blue - Wreay Texan. Tad - Gabin Dau Chene. Gwerthwyd i J Butler, Top of the Hill Farm, Newhay, Rochdale, Lancs. Cynhyrchu gwartheg eidion o safon.
Tarw Stoc Belgian Blue - Widewath Winston. Tad - Netherwood Umpire. Gwerthwyd i OW & GL Williams, Penrhyn, Llanfwrog, Caergybi, Ynys Mon. Cynhyrchwyr gwartheg stor o safon ar raddfa mawr.
Tarw Stoc Belgian Blue Gwerthwyd i DE & CV Jones, Pengallt, Coedybryn, Llandysul. Cynhyrchwyr gwartheg stor o safon.
Tarw Stoc Belgian Blue - tad Visconti. Gwerthwyd i MJ & TW Price, Ty Rosser, Llanafan, Llanelwedd. Cynhyrchu gwartheg stor o safon.
Tarw ifanc ped Belgian x ped Limousin - Tad - Valley Pedro. Gwerthwyd i H Davies & Sons, Pont y Styllod, Llandegla, Wrecsam.
Tarw Stoc Belgian Blue x Limousin- Tad - Dundrod. Gwerthwyd i JWI Thomas, Cil Gwgan, Aberaeron. Cynhyrchu gwartheg magu a lloi sugno o safon.