
Prynwyd ein hwrdd blaenorol yn arwerthiant y Gymdeithas Lleyn yn Carlisle yn 2005 gan Derek a Cindy Steen am 2000gns. Mae'r hwrdd yn sicr wedi gadael ei farc ar ein diadell gan adael wyn cyson a gwlaniad tyn a digon o steil.
Ein buddsoddiad diweddaraf yn Medi 2007 yw hwrdd newydd a brynwyd mewn cytundeb adre gan A W Davies, diadell Bronallt. Dewisiwyd yr hwrdd am ei faint, cywirdeb, hyd, gwlaniad a steil. Mae'r hwrdd wedi profi ei hun yn y cylch sioe pan ennillodd Prif Bencampwriaeth y defaid Lleyn yn Sioe Frenhinol Cymru 2007. Prynwyd ein hwrdd newydd ar y cyd a Dylan ac Emrys Jones, Lluest Wen, Machynlleth.Gweler y galeri am lyniau.»
Ni yw pencampwyr cystadleuaeth diadell bach gogledd Cymru 2005 a 2006.
Derbyniwyd y pris uchaf am ddefaid tair oed a phump oed yn arwerthiant cyntaf defaid cyfeb Rhuthun ym mis Ionawr 2007.
Mae'r ddiadell yn 'MV Accredited'.