
Yn Rhagfyr 2006 prynwyd pedair o ddefaid cyfeb ac un oen fanw yn Lanark o dispersal y ddiadell llwyddiannus Southholm. Gweler galeri Beltex am lyniau.
Yn Rhagfyr 2007 prynwyd Templand Kip o dispersal y ddiadell Templand. Mae Kip yn ferch i'r hwrdd enwog Southholm Carla ac yn gyfeb i Airyolland Kingsize. Gweler galeri Beltex am luniau.
Prynwyd ein hwrdd stoc cyntaf yn Medi 2007 gan J F Allan, Burghmuir, Biggar. Mae Southholm Jumbo yn hwrdd sydd wedi ei fridio yn hynod o dda.
Tad - The Rustler. Mam - Tullygarley Georgia. Mae Jumbo yn hwrdd sydd eisioes wedi profi ei hun gyda merched iddo yn gwerthu hyd at 2,200 gns.
Fy mwriad yw sefydlu diadell o'r radd flaenaf, gan fuddsoddi yn ofalus mewn defaid arbennig er mwyn gosod seiliau cadarn i'r dyfodol. Fy nod yw cynhyrchu Beltex cyfoes sy'n cyrraedd gofynion y bridiwyr pedigri a'r cwsmeriaid masnachol.
Mae'r ddiadell yn 'MV Accredited'.
Gweler Galeri Defaid Beltex page»