
Cyflenwir heffrod a lloi gan fridiwyr sy'n arbennigo mewn cynhyrchu buchod magu. Bydd y buchod ifanc yn hannu o fuchesi sy'n cael eu gwerthu'n gyflawn neu'n cael eu lleihau mewn nifer.
Gellir prynu buchod a lloi yn unigol os dymunir er mwyn cyrraedd gofynion manwl gywir y prynwr.
Gellir hefyd cyflenwi buchod sy'n addas ar gyfer cynhyrchu lloii sioe masnachol e.e/Lim x B.Blue, B.Blue's pur neu ¾, Blonde x B.Blue, Limousins pur neu ¾ ayb.
Yn y Ffair Aeaf yn Llanelwedd 2006 gwerthwyd llo heffer Limousin x yn yr adran gwartheg ifanc (baby beef) am £6,000 gan I.T Edwards, Bron Ddwyryd, Corwen. Prynwyd yr heffer arbennig yma gan E Jones, Coedmore Hall, Llanbedr P.S. Gwerthwyfd y fam , buwch Lim x B.Blue gan Owain Llyr.